Swydd Wag -- Rolau Amrywiol Gradd SEO - Benthyciad o’r Tu Allan (Ar agor)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru
SEO - £41,700 - £49,370
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Benthyciad
Hyd at 2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
Cynhelir sgyrsiau rhagarweiniol anffurfiol gyda Rheolwyr Llinell yn rhithwir. Dyddiadau i’w cadarnhau

Pwrpas y swydd

Rydym yn awyddus i wneud yn fawr o arbenigedd staff o bob rhan o’r Gwasanaeth Sifil er mwyn esgor ar effaith ymarferol a chadarnhaol yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Mae ein Huwch Swyddogion Gweithredol yn cyflawni rôl allweddol yn Llywodraeth Cymru, a disgwylir iddynt ysgwyddo cyfrifoldeb lefel uchel dros feysydd gwaith penodol, arwain a rheoli timau a’u llwythi gwaith a dirprwyo tasgau. Mae Uwch Swyddogion Gweithredol yn gwneud cyfraniad sylweddol at y meddylfryd a’r penderfyniadau a wneir o ran datblygu polisi, strategaeth a chynllunio busnes ac, wrth wneud hynny, byddant yn gweithio’n agos gyda Phenaethiaid Cangen a Dirprwy Gyfarwyddwyr. Efallai y bydd ganddynt hefyd gyfrifoldebau sylweddol o ran rheoli a chysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

 Caiff pob un ohonom ein hysgogi gan y gwerthoedd a nodir yng Nghod y Gwasanaeth Sifil: sef uniondeb, gwrthrychedd, gonestrwydd ac amhleidioldeb. Yn ychwanegol at y cod mae gennym ein gwerthoedd a’n disgwyliadau ein hunain sy’n crynhoi ein ‘ffordd Gymreig’ o weithio, gan adlewyrchu’r uchelgeisiau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 Mae gennym amrywiaeth o rolau â blaenoriaeth i’w llenwi, lle bydd ystod eang o sgiliau a phrofiad yn angenrheidiol. Mae’r rolau ar gael yn y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yng Ngrŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, yn y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, ac yng Ngrŵp yr Ysgrifennydd Parhaol (PSG).

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu paru â swyddi â blaenoriaeth. Wrth wneud cais am un o’r rolau hyn, felly, byddwch yn cytuno i symud i swydd yr ystyrir ei bod yn fwyaf priodol i chi ar sail yr wybodaeth a gyflwynwch.

Prif dasgau

Yr hyn y bydd y sefydliad yn ei ddisgwyl

  • Byddwch yn gyfrifol am reoli meysydd gwaith diffiniedig gan ddefnyddio eich gwybodaeth neu brofiad arbenigol i arfer dyfarniad doeth wrth ddehongli gwybodaeth gymhleth neu wybodaeth sy’n gwrthdaro, gan bwyso a mesur amryw o ffactorau a thystiolaeth i gynhyrchu syniadau ac atebion adeiladol.
  • Byddwch yn arloesol yn eich dull o ddatrys problemau. Byddwch yn gweithredu’n annibynnol wrth chwilio am gyfleoedd newydd, datblygu atebion newydd a bod yn ddigon ymatebol i addasu a datblygu opsiynau newydd wrth i amgylchiadau newid.
  • Byddwch yn dangos ymwybyddiaeth wleidyddol a dealltwriaeth o’r dirwedd wleidyddol wrth ystyried effaith eich penderfyniad a’ch gwaith ar y maes busnes ehangach ac wrth lunio cynigion ar gyfer Uwch Reolwyr a Gweinidogion.

Yr hyn y bydd eich tîm yn ei ddisgwyl

  • Efallai y bydd hi’n ofynnol i chi reoli tîm, gan osod cyfeiriad clir ar gyfer cyflawni ei amcanion. Byddwch yn cefnogi aelodau’r tîm yn eu gwaith, megis meysydd gwaith cymhleth; dyrannu a blaenoriaethu gwaith; rheoli perfformiad, hyfforddi a datblygu; mentora a hyfforddi.
  • Byddwch yn gwerthfawrogi amrywiaeth a chynhwysiant, gan greu amgylchedd lle mae unigolion yn teimlo y gallant herio, rhannu syniadau a mynegi pryderon yn ddiogel, gan fabwysiadu arddull arwain cynhwysol.
  • Byddwch yn gyfrifol am ddatblygu, gweithredu a chynnal systemau neu brosesau, gan sicrhau rhagoriaeth neu werth am arian.

Yr hyn y bydd rhanddeiliaid allweddol yn ei ddisgwyl

  • Byddwch yn arwain y gwaith o greu, adeiladu a chynnal cysylltiadau adeiladol ar bob lefel.
  • Byddwch yn gallu teilwra ac addasu eich arddull cyfathrebu (ar bapur ac ar lafar) i gynghori, tywys, dylanwadu a darbwyllo rhanddeiliaid mewnol ac allanol fel sy’n briodol.

Cyfleoedd datblygu

Dyma gyfle gwych i greu effaith trwy ddod â’ch gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad gwerthfawr i adran wahanol yn y llywodraeth. Hefyd, bydd modd i chi feithrin eich gallu a’ch set sgiliau trwy fod yn rhan o ystod eang o waith hollbwysig, yn cynnwys blaenoriaethau fel ymateb i COVID-19 a threfniadau pontio’r UE.

Dyddiad Cau

06/09/22 16:00

Hyderus o ran Anabledd

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Llwyddiant blaenorol o ran rheoli staff a pherfformiad, adnoddau a phrosiectau i sicrhau bod modd cyflawni gwaith yn effeithiol.

Proses Asesu

Gwelir y pecyn ymgeisydd isod:

Bydd ein hysbysebion Adran Arall o’r Llywodraeth yn rhedeg nes ein bod wedi llenwi pob rôl wag. O ganlyniad, ni fydd dyddiad cau a bydd ceisiadau’n cael eu didoli a’u penodi wrth iddynt ddod i law. Bydd y drefn deilyngdod yn seiliedig ar amseriad y ceisiadau. Unwaith y byddwn yn agos at lenwi ein holl swyddi gwag, byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd sydd wedi dechrau llunio cais i roi gwybod i chi y bydd yr hysbyseb yn cau ymhen pythefnos o ddyddiad anfon yr e-bost.


Gwybodaeth arall


Penodiadau a Thelerau ac Amodau

  • Dim ond i Weision Sifil presennol mae cyfleoedd benthyciad o’r tu allan ar gael (ar sail benthyg yn unig).
  • Mae rolau i’w cael ar gyfer cyfleoedd tymor byr (6-12 mis) neu gyfleoedd tymor hir (hyd at ddwy flynedd).
  • Ni ddisgwylir i chi drosglwyddo’n barhaol i Lywodraeth Cymru.
  • Mae’r holl rolau ar gael ar radd y swydd barhaol ac ar sail symud ar draws yn unig.
  • Ni fydd dyrchafiadau dros dro na dyrchafiadau parhaol ar gael trwy gyfrwng y cyfle hwn; fodd bynnag, bydd nifer o’r rolau’n cynnig cyfle i ennill profiad gwerthfawr, ehangu rhwydweithiau a dysgu sgiliau newydd.
  • Byddwn yn gwneud pob ymdrech i’ch paru â rôl ar sail y dystiolaeth a gyflwynwch yn eich ffurflen gais.
  • Ni allwn warantu y byddwch yn cael cynnig unrhyw swydd, neu swydd benodol.
  • Os cewch eich paru’n llwyddiannus â rôl, byddwch yn symud dan drefniadau ffurfiol Benthyciad o’r Tu Allan, h.y. byddwch yn symud i Delerau ac Amodau Llywodraeth Cymru.
  • Bydd eich cyflog parhaol yn cael ei baru â’r pwynt cyflog agosaf ar fand cyflog y radd, ac ni fyddwch ar eich colled https://llyw.cymru/telerau-buddion-gwasanaeth-sifil-llywodraeth-cymru
  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael cymeradwyaeth/caniatâd gan eich rheolwr llinell i’ch rhyddhau.
  • Rhaid i chi fod ar gael i’ch rhyddhau yn syth, oherwydd ar ôl i chi gael eich paru â rôl disgwylir i chi fynd i’r afael â’r swydd yn ddi-oed.
  • Byddem yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob rhan o'r gwahanol broffesiynau a'r rhai â sgiliau arbenigol neu gyffredinol.
  • Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi pob aelod o staff i ffynnu mewn amgylchedd gwaith cynhwysol.
  • Rydym yn gefnogol i’r arfer o weithio gartref a’r arfer o deilwra patrymau i weddu i amgylchiadau’r unigolyn. Yn y tymor byr, bydd mwyafrif y deiliaid swyddi yn gweithio gartref.
  • Er nad yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer proses dethol yr ymgyrch hon, rydym yn annog ceisiadau gan unigolion a all weithio’n ddwyieithog.
  • Gan mai benthyciad yw hwn, pe bai’r swydd yn dod i ben dylech gadw mewn cof y bydd disgwyl i chi ddychwelyd i’ch sefydliad presennol.
HRTransitionTeam@gov.wales / TimTrawsnewidAD@llyw.cymru

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.

I wneud cais am gyfle benthyciad o’r tu allan, bydd angen i chi baratoi templed CV Symud ar Draws . Os na chaiff hwn ei lenwi a/neu ei gyflwyno, ni fydd y cais yn cael ei ystyried.

Yn y cais CV symud ar draws, bydd angen i chi gyflwyno 500 gair yn ymwneud â’r canlynol:

  • Soniwch am adeg pan wnaethoch chi reoli staff a pherfformiad, adnoddau a phrosiectau i sicrhau bod modd cyflawni gwaith yn effeithiol. Beth fu’r effaith a’r canlyniad?

Ymhellach, bydd angen i chi nodi eich sgiliau a’ch profiad, cyflwyno hanes byr o’ch gyrfa, a nodi eich hoff ddewisiadau o ran Grŵp/Adran a maes gwaith craidd â blaenoriaeth.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y cyfleoedd a’r camau sy’n berthnasol i’r broses dethol a pharu yn y pecyn i ymgeiswyr.

Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch TimTrawsnewidAD@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

**Nodwch:  Os oes gennych chi gyfrif Penodi yn barod, a hoffech chi ddiweddaru eich enw defnyddiwr i’r cyfeiriad e-bost @llyw.cymru newydd, dylech fewngofnodi i’ch cyfrif gan ddefnyddio’ch hen fanylion, yna clicio ar eich enw, a dewis ‘Golygu manylion personol’.  Gallwch ddiweddaru eich manylion personol cofrestredig ar y dudalen hon.**

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.