Swydd Wag -- Rheolwr Trafnidiaeth Rhanbarthol (NWTC)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru (NWTC)
SEO - £41,700 - £49,370
£41,700
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Arall
Cyfnod penodol / secondiad am ddwy flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae hon yn swydd allweddol o fewn timau y mae eu gwaith yn destun cryn graffu. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu polisïau, gan ystyried y cyd-destun ehangach. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddod yn arbenigwr yn ei faes polisi, a bydd yn cyflawni'r blaenoriaethau polisi a amlinellir yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru gan roi sylw penodol i faterion rhanbarthol.

Bydd deiliad y swydd yn rheoli rhaglenni gwaith, gan weithio'n agos gydag arweinwyr polisi, Trafnidiaeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni'n brydlon.

Mae'r Rheolwr Trafnidiaeth Rhanbarthol yn rôl allweddol mewn is-adran y mae ei gwaith yn destun cryn graffu.  Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu polisïau er mwyn cyflawni ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth yn rhanbarthau Cymru.

 

Yn y lle cyntaf, bydd deiliad y swydd hon yn canolbwyntio ar gyflawni cylch gwaith Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, gan gynnwys adroddiadau ac argymhellion.

 

Mae'r swydd hon yn cynnwys amrediad eang o ddyletswyddau:

  • Darparu cyfathrebiadau a chyhoeddiadau a chefnogi ymgysylltu allanol.
  • Rheoli, cydlynu a drafftio pob agwedd ar fusnes y Llywodraeth a Gweinidogion. Ysgrifennu a gwneud cyflwyniadau polisi ac ymatebion i ohebiaeth Gweinidogion.
  • Darparu cynlluniau busnes a chynlluniau gweithredu cadarn, gan nodi manteision, risgiau a cherrig milltir a rheoli contractau perthnasol gyda chyflenwyr arbenigol.
  • Disgwylir i ddeiliad y swydd arwain ar drafodaethau â rhanddeiliaid, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â pholisïau trawslywodraethol a nodau corfforaethol. Bydd yn cynrychioli'r maes polisi a'r sefydliad mewn cyfarfodydd neu rwydweithiau allanol.
  • Ymchwilio i broblemau a'u dadansoddi, gan nodi problemau posibl a phennu prosesau a gweithdrefnau ar gyfer rhoi polisïau ar waith.
  • Cynrychioli'r maes polisi a'r sefydliad mewn cyfarfodydd neu rwydweithiau allweddol.
  • Rheoli'r bwrdd/byrddau rhaglen perthnasol, gan weithio gyda swyddogion arweiniol i olrhain y gwaith o gyflawni ac aseinio camau gweithredu.
  • Rhoi cymorth a chyngor i staff HEO/EO ynghylch drafftio ymatebion i ymholiadau gan weinidogion, uwch-swyddogion, staff a rhanddeiliaid o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt.

Prif dasgau

Bydd prif ddyletswyddau'r swydd hon yn cynnwys:

  • Adeiladu perthnasau cydweithredol cryf ar draws y rhanbarthau, â rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Mae hyn yn cynnwys Cyd-bwyllgorau Corfforedig wrth iddynt gael eu datblygu ac awdurdodau lleol (gan gynnwys awdurodau lleol yn Lloegr ar fentrau trawsffiniol).
  • Cefnogi arweinwyr polisi i bennu targedau a sefydlu'r mecanweithiau gweithredol, yr ethos a'r arferion gweithio sydd eu hangen i gyflawni agendâu sy'n gallu bod yn gymhleth ac yn drawsbynciol.
  • Cynllunio busnes a chamau gweithredu, gan nodi manteision, risgiau a cherrig milltir.
  • Darparu cymorth ysgrifenyddiaeth a llywodraethu ar gyfer y rhaglen yn ôl yr angen.
  • Darparu cymorth a chyngor pwrpasol ar gyfer Gweinidogion ar faterion sy'n ymwneud â'ch maes polisi a gweithgareddau cysylltiedig; drafftio diweddariadau o ansawdd uchel ar gyfer y Gweinidogion perthnasol.
  • Gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn yr Adran Gyfathrebu mewn perthynas â gwaith ymgysylltu, er mwyn sicrhau deialog effeithiol a chynhyrchiol â'r holl randdeiliaid perthnasol a'r cyhoedd.
  • Bydd deiliad y swydd yn rheoli gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan sicrhau bod ei waith yn cyd-fynd â phortffolios eraill a nodau corfforaethol. Bydd yn cynrychioli'r maes polisi a'r sefydliad mewn cyfarfodydd neu rwydweithiau allanol.
  • Cynnal a goruchwylio ymchwil a gwaith dadansoddi, gan nodi problemau posibl a nodi prosesau a gweithdrefnau ar gyfer rhoi polisïau ar waith.

Cyfleoedd datblygu

Dyma gyfle i arwain gwaith datblygu a rheoli polisïau mewn maes gweinidogol allweddol sydd â blaenoriaeth.

Bydd cyfle i weithio'n agos iawn gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ar feysydd polisi sy'n effeithio ar bob aelod o'r cyhoedd sy'n teithio.

Dyddiad Cau

30/03/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Dim sgiliau
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Dim sgiliau

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  1. Gwneud Penderfyniadau Effeithiol – Dadansoddi a defnyddio amrediad o wybodaeth berthnasol a dibynadwy gan ffynonellau mewnol ac allanol i gefnogi penderfyniadau.
  2. Cyfathrebu a Dylanwadu – Cyfathrebu mewn ffordd syml, gonest a diddorol, gan ddewis arddulliau priodol i gynyddu dealltwriaeth ac effaith cymaint ag y bo modd.
  3. Cyflawni'n Brydlon – Gweithio'n gyflym i ailasesu llwythi gwaith a blaenoriaethau pan fydd blaenoriaethau'n gwrthdaro, er mwyn cynnal perfformiad.
  4. Gweithio gyda’n gilydd – Ceisio ac ystyried mewnbwn gan bobl sy'n dod o gefndiroedd gwahanol ac sy’n meddu ar safbwyntiau amrywiol.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. Byddai sgiliau drafftio cryf a phrofiad o ddrafftio dogfennau i'w cyhoeddi yn ddymunol.
  2. Tystiolaeth o sgiliau dadansoddi cryf a'r gallu i ddatblygu opsiynau ymarferol yn dilyn dadansoddiadau.
  3. Ymwybyddiaeth o'r broses bolisi a'r amgylchedd gwleidyddol rydym yn gweithio ynddo.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio, wedyn, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad lle bydd gofyn iddynt wneud cyflwyniad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Bydd angen gwneud cyflwyniad yn ystod y cyfweliad.  Rhoddir pwnc y cyflwyniad pan anfonir y gwahoddiadau i gyfweliad.
Lea Beckerleg - NorthWalesTransportCommission@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.