Swydd Wag -- Dylunydd Technegol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yr Uned Dysgu Digidol
SEO - £41,700 - £49,370
£37,600
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Y De-orllewin
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd


Y Cefndir

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru, ac mae ganddi gyllideb flynyddol o oddeutu £15 biliwn. Mae'n gyfrifol am agweddau allweddol ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru gan gynnwys iechyd, addysg, yr economi, trafnidiaeth, amaethyddiaeth a'r amgylchedd.

Mae gweithlu o dros 5,000 o weision sifil yn cefnogi Gweinidogion Cymru mewn swyddfeydd yng Nghymru, Llundain, Brwsel, a gwledydd eraill dramor.

Caiff blaenoriaethau Llywodraeth Cymru eu hamlinellu yn Symud Cymru Ymlaen. Yr uchelgais cyffredinol yw creu Cymru hunanhyderus, ffyniannus ac iach, a chreu cymdeithas deg. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi pennu blaenoriaethau clir ar gyfer Cymru yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio denu pobl sy'n gallu darparu cymorth a chyngor rhagorol, sy'n gallu ffocysu adnoddau a chanddynt egni ac arbenigedd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn rhoi cyd-destun i'n gwaith.

Mae trawsnewid ein gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol yn hanfodol o ran cyflenwi'r gwasanaethau y mae pobl Cymru eu hangen ac yn eu disgwyl. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru'n cyflenwi nifer o wasanaethau digidol i bobl a busnesau ar draws Cymru. Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth ar ein gwefannau.

O dan arweiniad ein Prif Swyddog Digidol, mae Llywodraeth Cymru yn cyflenwi mwy a mwy o wasanaethau ar-lein. Mae'r Prif Swyddog Digidol yn darparu gwasanaeth ymgynghori ar arbenigedd digidol ac arbenigedd data ar draws Llywodraeth Cymru.

Dysgu yn y Gymru Ddigidol

Dysgu yn y Gymru Ddigidol yw rhaglen waith Llywodraeth Cymru i wella'r defnydd o dechnoleg ddigidol wrth addysgu a dysgu. Mae'r rhaglen addysg hollbwysig hon yn cynnig amrywiaeth gyson o gyfarpar ac adnoddau digidol dwyieithog, a ariennir yn ganolog, i randdeiliaid ledled Cymru, a all gefnogi a hwyluso'r gwaith o drawsnewid arferion addysg digidol.

Y rôl
Prif ddiben y swydd hon yw cefnogi gwaith dylunio technegol a strwythur nifer o ffrydiau gwaith, gan gynnwys Azure Active Directory sy'n gyfeiriadur cenedlaethol, tenantiaeth Microsoft Office 365 a pharth Google for Education.

Mae yna heriau sylweddol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chyflwyno'r prosiect hwn yn llwyddiannus, a bydd y Dylunydd Technegol yn arwain y tîm a fydd yn gyfrifol am eu goresgyn ac am sicrhau canlyniadau o fewn amserlenni y cytunir arnynt.

Prif dasgau

• Arwain a rheoli adnoddau'r tîm yn effeithiol er mwyn mynd i'r afael â phwysau a blaenoriaethau busnes fel bod allbynnau allweddol yn cael eu cyflawni o fewn amser penodol y cytunir arno
• Gweithio gyda'r gweithgorau perthnasol i ddatblygu'r Cynllun Cyflawni Rhaglenni cyffredinol er mwyn gwella potensial ac ymarfer o ran addysgu a dysgu
• Ddadansoddi materion/problemau technegol mewn ffordd strwythuredig, er mwyn creu atebion technegol
• Ymgynghori ar waith dylunio technegol a gallu darparu patrymau dylunio
• Nodi'r materion technegol dyfnach y mae angen eu datrys
• Nodi cyfleoedd i gydweithio ac ailddefnyddio elfennau, gan gyfathrebu â rhanddeiliaid technegol ac annhechnegol
• Gweithio gyda defnyddwyr addysg i sicrhau bod agweddau technegol y llwyfan yn bodloni anghenion addysgu
• Bod â dealltwriaeth dda o ystod eang o dechnolegau

Cyfleoedd datblygu

Byddwch yn rhan o broffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn broffesiwn sy'n tyfu ac fe gewch gyfle i fod yn rhan o'r gwaith o'i lywio a'i ehangu. .
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau a galluoedd ein staff a'u hannog i ddefnyddio pum diwrnod y flwyddyn i ddysgu. I gefnogi hyn, rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd a allai gynnwys:
• Cysgodi
• Mentora
• Dysgu seiliedig ar waith
• Cymwysterau
• Coetsio
• Y Rhaglen Profiad Tymor Byr (STEP)
• Bod yn rhagweithiol wrth greu cysylltiadau ag amrywiaeth eang o dimau Llywodraeth Cymru a phartneriaid allanol gan gynnwys Llywodraethau eraill yn y DU.

Dyddiad Cau

10/08/18 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd


Fel rhan o'ch cais, dylech baratoi datganiad personol sy'n amlinellu sut rydych yn bodloni'r gofynion HANFODOL canlynol ar gyfer y rôl. Ni ddylai eich datganiad personol fod yn hirach na 2 ochr papur A4.

I lwyddo yn y rôl hon, byddwch yn gallu:

Pontio'r bwlch rhwng y technegol a'r annhechnegol
Yn meddu ar brofiad o egluro cysyniadau technegol peirianneg meddalwedd, rheoli darpariaeth a rheoli gwasanaeth fel eu bod yn ddealladwy i bawb.

Gwneud a llywio penderfyniadau
Yn gallu gwneud a llywio penderfyniadau effeithiol, gan esbonio'n glir sut y daethpwyd i'r penderfyniad. Yn gallu deall a datrys anghydfodau technegol ar wahanol lefelau cymhlethdod a risg.

Troi problemau busnes yn gynlluniau technegol
Yn gallu gweithio gyda rhanddeiliaid busnes a thechnoleg i droi problemau busnes yn gynlluniau technegol. Yn gallu creu'r cynllun gorau drwy broses o ail-greu dro ar ôl tro, sy'n alinio angen y defnyddiwr â gofynion y system ac amcanion y sefydliad.

Deall y cyd-destun cyfan
Yn gallu edrych y tu hwnt i'r broblem dechnegol sylfaenol a nodi'r goblygiadau ehangach. Gwybod beth yw'r cyd-destun hanesyddol perthnasol a'r effaith hirdymor, deall sut mae'r gwaith presennol yn berthnasol i gyd-destunau a strategaethau ehangach, a chwilio am broblemau a chyfleoedd gwaelodol dyfnach.

Mae'r sgiliau technegol canlynol hefyd yn HANFODOL i lwyddo yn y rôl hon. Sicrhewch eich bod yn atodi CV sy'n dangos eich gallu yn y sgiliau hyn.

• Profiad o ddarparu gwasanaethau digidol lefel uchel, gan gynnwys:
o Gwasanaethau cwmwl (ee Microsoft Azure)
o Microsoft Azure Active Directory (parthau â dros 10 o ddefnyddwyr)
o Microsoft Office 365 (tenantiaethau â dros 10 o ddefnyddwyr)

• Technolegau cronfeydd data (ee gweinydd MS SQL)
• Yn gyfarwydd â phrotocolau rhwydweithiau - TCP/IP, HTTP, SSL, etc
• Dealltwriaeth o saernïaeth cymwysiadau cyffredin y we


CEIR darparu tystiolaeth ychwanegol mewn perthynas ag UNRHYW UN o'r galluoedd DYMUNOL canlynol sy'n benodol i'r swydd (a chaiff ei defnyddio i wahaniaethu rhwng ymgeiswyr a asesir ar lefel debyg). Dylech gynnwys y dystiolaeth hon yn eich CV.

Cymhwyster ym maes ITIL i lefel sylfaen v3 fan leiaf.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

I wneud cais ar gyfer y rôl hon, gofynnir ichi atodi'r canlynol:
• Datganiad Personol o'ch addasrwydd yn esbonio sut mae eich profiad a'ch sgiliau yn darparu tystiolaeth mewn perthynas â gofynion hanfodol y rôl. Ni ddylai eich Datganiad Personol fod yn hirach na 2 ochr papur A4.
• CV cyfredol yn cynnwys tystiolaeth o'r sgiliau technegol hanfodol ac unrhyw allu dymunol sy'n benodol i'r swydd lle bo'n berthnasol.

Os bydd eich cais yn llwyddo yn y cam sifftio, cewch eich gwahodd am gyfweliad. Bydd y cyfweliad yn canolbwyntio ar eich sgiliau a'ch profiad mewn perthynas â gofynion hanfodol y rôl. Mae'n bosibl y bydd yna brawf neu asesiad hefyd os yw'n briodol.

Yn dilyn y cyfweliad, os na fyddwch yn llwyddiannus, efallai y byddwn yn cadw eich manylion am hyd at 12 mis ar restr wrth gefn rhag ofn y bydd swyddi tebyg yn codi.

NODER: Mae'n bwysig eich bod yn atodi'r ddwy ddogfen (y Datganiad Personol a'r CV) i'ch cais ar-lein er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.


Mae amryw o fanteision i gael os ydych yn gweithio i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

• Mae pawb yn cael cefnogaeth i wella neu gael sgiliau Iaith Gymraeg
• Trafodaethau datblygiad cyson a'r hyfforddiant sydd ei angen arnoch yn y swydd ac i fagu hyder
• Ychwanegiadau blynyddol at gyflog, sy'n caniatáu i chi gyrraedd brig eich graddfa gyflog o fewn 3-4 blynedd
• 31 o ddiwrnodau o wyliau blynyddol, a diwrnod Nadolig a Phen-blwydd y Frenhines
• Absenoldeb rhiant hael, gan gynnwys 26 wythnos ar gyflog llawn i weithwyr cymwys
• Cynllun Pensiwn hael gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
• Talebau Gofal Plant, yn arbed hyd at £933 y flwyddyn
• Cynllun Beicio i'r Gwaith: dewiswch feic newydd sbon sy'n costio hyd at £1000, gan arbed o leiaf 32%
• Blaenswm Cyflog: gwneud cais am flaenswm cyflog Nadolig, ar gyfer cyfarpar cyfrifiadurol neu ar gyfer Blaendaliadau Tenantiaeth
• Benthyciadau Tocyn Tymor
• Polisi Oriau Hyblyg

James Dix - 0300 0254594

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.