Swydd Wag -- Awdurdod Cyllid Cymru - Swyddog Cyllid x5

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Llywodraeth Cymru
Awdurdod Cyllid Cymru
EO - £26,900 - £30,610
£23,625
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Y De-ddwyrain, Lleoliad arall
Canolfan QED, Trefforest
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn chwilio am bump Swyddog Cyllid i lenwi rolau allweddol, sef cyflawni prosesau cyllid o fewn Awdurdod Cyllid Cymru er mwyn sicrhau bod taliadau a derbyniadau yn cael eu prosesu’n effeithlon ac yn brydlon a bod targedau a bennwyd yn cael eu cyflawni.   Bydd cyfle i'r ymgeiswyr llwyddiannus roi cymorth a chefnogaeth i’r Uwch Reolwyr Cyllid yng nghyswllt systemau Cyllid Treth a Chyllid Corfforaethol y Gangen.

Gall yr ymgeisydd llwyddiannus ddisgwyl ymuno â sefydliad newydd a chyffrous. Sefydlwyd Awdurdod Cyllid Cymru yn Hydref 2017 fel adran anweinidogol gyntaf Llywodraeth Cymru, a bydd yn gweithredu ei bwerau datganoledig newydd i gasglu'r trethi Cymreig cyntaf mewn 800 mlynedd – sef y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi – gan gynhyrchu'r incwm i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus Cymreig yn uniongyrchol. Gan fod y tîm rydych chi’n ymuno ag ef yn newydd, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cyfle unigryw i fod yn rhan o greu prosesau a systemau newydd ond bydd y swydd hefyd yn galw am hyblygrwydd a dawn i ganfod atebion.

Prif dasgau

Mae'r tasgau y bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn debygol o ymgymryd â nhw yn cynnwys y canlynol:

  • Cofnodi dogfennau Cyfrifon Taladwy a Chyfrifon Derbyniadwy ar y system gyllid o fewn 1 diwrnod i'w derbyn. 
  • Paru anfonebau Cyfrifon Taladwy â derbyniadau Archebion Prynu ar y system gyllid o fewn 1 diwrnod i'w derbyn. 
  • Paratoi cysoniadau banc dyddiol.
  • Paratoi ffeiliau ar gyfer eu llwytho i fyny i'r dyddlyfr taliadau. 
  • Prosesu derbyniadau siec a derbyniadau arian parod yn brydlon a’u dyrannu’n briodol ar y system gyllid.
  • Helpu rheolwyr i reoli arian parod sydd heb gael ei ddyrannu.
  • Helpu rheolwyr i ddelio â cheisiadau Archwiliad.
  • Rhoi cymorth i reolwyr gyda’r broses Cynnal Cwsmeriaid a Fendwyr.
  • Prosesu anfonebau ‘digartref’ yn brydlon gan sicrhau bod yr ymholiad yn cael ei godi gyda'r cyflenwr a/neu'r adran sydd wedi'i awdurdodi ar y diwrnod y maent yn cyrraedd.   
  • Anfon anfonebau a hysbysiadau yn atgoffa cwsmeriaid eu bod ar ei hôl hi gyda thalu cyfrif.
  • Anfon slipiau talu at fendwyr. 
  • Rheoli pob dogfen sy'n dod i law neu sy’n cael ei hanfon allan ar y diwrnod y caiff ei derbyn.
  • Sicrhau bod pob dogfen ariannol yn cael ei sganio, ei storio a’i ffeilio yn unol â gofynion Awdurdod Cyllid Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.
  • Dyletswyddau swyddfa cyffredinol sy’n berthnasol i holl brosesau cangen gyllid Awdurdod Cyllid Cymru.
  • Rhoi cefnogaeth weinyddol i’r Cyfrifydd Rheoli, y Rheolwr Dyledion a'r Rheolwr Cysoniadau Banc yn ôl y galw.  
  • Helpu i baratoi ffurflenni TAW chwarterol. 
  • Helpu gyda gofynion y busnes o ran y llif arian a ragwelir.  

Cyfleoedd datblygu

Mae hwn yn gyfle cyffrous i gael profiad cyfrifyddu ymarferol ac, i'r rheiny sydd heb gymhwyster ar hyn o bryd, cyfle i ennill cymhwyster AAT wedi'i gyllido’n llawn.    

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cefnogaeth a chymorth llawn i symud ymlaen yn eu gyrfa o fewn Proffesiwn Cyllid y Llywodraeth.  

Dyddiad Cau

30/01/18 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

  • Gosod y Trywydd - Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Siarad â’r bobl berthnasol er mwyn cael yr wybodaeth fwyaf cywir a chael cyngor pan na fyddant yn siwˆr sut i symud ymlaen

  • Ymwneud â Phobl - Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Annog gwaith tîm, gan newid dulliau gweithio er mwyn hwyluso cydweithredu er lles gwaith y tîm

  • Gwireddu Canlyniadau - Sicrhau Gwerth am Arian - Sicrhau y glynir at weithdrefnau ac arferion rheoli cydnabyddedig

  • Gwireddu Canlyniadau - Cyflawni’n Brydlon - Mynd ati’n rheolaidd i adolygu beth neu bwy sydd ei angen i sicrhau bod prosiect/gweithgaredd yn llwyddo, a gwneud gwelliannau parhaus

Meini prawf penodol y swydd

  1. Sgiliau gweithio mewn tîm ardderchog gyda’r gallu i weithio’n hyblyg ar draws y swyddogaeth gyllid i gyflawni amcanion y tîm cyllid. 
  2. Gallu blaenoriaethu a gweithio dan bwysau ar adegau prysur hyd lefel uchel o gywirdeb.
  3. Meddu ar gymhwyster AAT, neu'r parodrwydd i hyfforddi tuag at gymhwyster AAT.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Telerau'r Penodiad
Swydd barhaol yw hon.

Yn ystod y cyfnod o sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) mae Llywodraeth Cymru yn recriwtio i nifer o swyddi ar ran yr adran anweinidogol newydd hon.
Er nad yw Telerau ac Amodau Awdurdod Cyllid Cymru wedi’u cadarnhau eto, rhagwelir y byddant yn dilyn rhai Llywodraeth Cymru.

Yn unol â rhan 2 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, mae gofyn i holl staff ACC lofnodi Datganiad Cyfrinachedd mewn perthynas â gwybodaeth bersonol am drethdalwyr.

Beth rydyn ni’n ei gynnig:

Mae ACC yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau, yn cynnwys:
• Cyfle i lywio sylfeini sefydliad dwyieithog, newydd
• Cymorth er mwyn i bob gweithiwr cyflogedig wella neu feithrin ei sgiliau iaith Gymraeg
• Trafodaethau datblygu rheolaidd a’r hyfforddiant sydd ei angen arnoch yn eich swydd ac er mwyn i chi dyfu
• Codiadau cyflog blynyddol, sy’n fodd i chi weithio eich ffordd i fyny’r raddfa gyflog o fewn 3-4 blynedd
• 31 diwrnod o wyliau blynyddol, yn ogystal â diwrnod ar gyfer y Nadolig a Phen-blwydd y Frenhines
• Cyfnod hael o absenoldeb rhiant, yn cynnwys 26 wythnos ar gyflog llawn i weithwyr cyflogedig cymwys
• Cynllun pensiwn hael gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
• Cynllun Talebau Gofal Plant, gan arbed hyd at £933 y flwyddyn
• Cynllun Seiclo i’r Gwaith: dewiswch feic newydd sy’n werth hyd at £1000, gan arbed o leiaf 32%
• Blaensymiau Cyflog: gallwch ofyn am flaensymiau cyn y Nadolig, ar gyfer offer cyfrifiadurol neu Flaendaliadau Tenantiaeth
• Benthyciadau Tocyn Tymor
• Polisi oriau hyblyg
• Lleoliad cyfleus oddi ar yr M4 gyda maes parcio am ddim ar y safle (ar sail y cyntaf i'r felin)

- Efallai y bydd lwfans cyfrifeg yn daladwy i ymgeisydd addas

Jenni Viggers - Jenni.Viggers@gov.wales - 03000 253660 Mike Bunt - Michael.Bunt@Gov.Wales - Tel: 0300 0628869

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.