Swydd Wag -- Awdurdod Cyllid Cymru - Arbenigwr yn y Dreth Trafodiadau Tir

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Llywodraeth Cymru
Awdurdod Cyllid Cymru
HEO - £32,460 - £39,690
£29,100
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Canolfan QED, Trefforest
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Prif bwrpas y rôl yw darparu cymorth technegol gyda'r Dreth Trafodiadau Tir i gwsmeriaid ac i gydweithwyr yn Awdurdod Cyllid Cymru.

Mae swyddogaeth Weithredol Awdurdod Cyllid Cymru yn cwmpasu'r holl weithgareddau sy’n berthnasol i ddelio â chwsmeriaid.  Mae hyn yn amrywio o ymdrin ag ymholiadau gan gwsmeriaid i bob math o weithgareddau cydymffurfio sy'n galluogi cwsmeriaid i dalu'r dreth iawn ar yr amser iawn. 

Dyma rai o gyfrifoldebau deiliad y swydd:

  • delio â materion bob dydd sy'n codi yng nghyswllt y Dreth Trafodiadau Tir a gwasanaethau Awdurdod Cyllid Cymru;
  • delio ag ymholiadau technegol gan gwsmeriaid am y Dreth Trafodiadau Tir;
  • helpu i ddatrys cwynion gan gwsmeriaid;
  • ymateb i geisiadau am opiniwn treth, ac
  • ymgymryd â gweithgareddau cydymffurfio sy'n berthnasol i'r Dreth Trafodiadau Tir - gan gynnwys asesiadau o risg ac ymholiadau.

Rydym yn chwilio am rywun sy’n credu bod asesu a datrys gwaith achos ym maes treth yn hynod o bwysig, ac sy’n meddu ar y sgiliau i ddelio ag amrywiaeth o ymholiadau technegol a materion cysylltiedig â chydymffurfiad. Gallai'r ymholiadau hyn godi ar y ffôn, drwy e-bost neu mewn gohebiaeth.  Felly mae sgiliau cyfathrebu cryf yn allweddol.

Prif dasgau

Canfod a Datrys Risgiau
Cynnal asesiadau o risg ar ffurflenni'r Dreth Trafodiadau Tir er mwyn canfod risgiau posibl;
Gweithio gyda chwsmeriaid i geisio deall y risgiau a’u datrys;
Cynnal gwiriadau cydymffurfiad, gan gynnwys ymholiadau ffurfiol, er mwyn rhoi sylw i risgiau lle bo angen.
Defnyddio pwerau ymchwilio i sefydlu ffeithiau a thystiolaeth fel rhan o'r gwiriadau cydymffurfiad;
Canfod ateb derbyniol o fewn y ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'r Dreth Trafodiadau Tir ar wiriadau cydymffurfiad. Asesu'r defnydd o gosbau os sefydlir bod gwybodaeth yn anghywir.  

Gweithio gydag eraill
Disgwylir i chi nodi a thynnu sylw at feysydd posibl ar gyfer gwella yng nghyswllt prosesau a gweithdrefnau, ar y cyd a'r Pennaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid;
Gweithio gyda'r arweinydd Technegol ym maes y Dreth Trafodiadau Tir i sicrhau bod ymholiadau gan gwsmeriaid yn cael eu hateb yn gyflym ac yn gywir;
Gweithio gydag eraill ar draws Awdurdod Cyllid Cymru i sicrhau eich bod chi a'r tîm ehangach yn deall datblygiadau yn y busnes neu yng nghyswllt y Dreth Trafodiadau Tir a allai effeithio ar y tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid.

Datblygu eich hun a’r sefydliad
Dod yn arbenigwr ar y Dreth Trafodiadau Tir er mwyn i chi allu cynorthwyo cydweithwyr ag ymholiadau technegol cymhleth;
Gweithredu ar adborth gan gwsmeriaid, rhanddeiliaid a chydweithwyr i wella’r gwasanaeth y mae Awdurdod Cyllid Cymru yn ei ddarparu i'w gwsmeriaid, a'r ffordd y mae’n gweithio.
Darparu sicrwydd bod gwybodaeth cysylltiedig â Threthdalwyr yn cael ei thrin yn gyfrinachol, yn gywir ac yn effeithlon.
Cyrraedd safonau perfformiad allweddol a chefnogi a chynorthwyo cydweithwyr i wneud yr un peth.

Cyfleoedd datblygu

Bydd hon yn rôl a fydd wrth galon Datganoli Trethi yng Nghymru. Mae’n rôl hollbwysig i sicrhau bod y Dreth yn cael ei chasglu’n effeithiol ac yn effeithlon ac yr ymdrinnir yn gywir ag ymholiadau gan gwsmeriaid.  Bydd deiliad y swydd hefyd yn un o arbenigwyr cydymffurfiad cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru.  Felly bydd yn gallu helpu i ddatblygu dull gweithredu'r Awdurdod yng nghyswllt cydymffurfiad â'r Dreth Trafodiadau Tir. Bydd yn cael cyfle i lunio ac i ddatblygu'r gwasanaeth sy'n cael ei greu.

A gan fod y corff yn newydd ac yn fach, bydd deiliad y swydd hefyd yn cael cyfle i gydweithio’n agos â gweithwyr proffesiynol eraill ar draws y sefydliad, gan gynnwys gweithwyr ym maes Cyllid, Strategaeth, Polisi a TG, i wella Gwasanaeth Cwsmeriaid ac i wella Cydymffurfiad â'r Dreth wrth i Awdurdod Cyllid Cymru dyfu. 

Dyddiad Cau

08/03/18 10:45

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Gosod y Trywydd - Gwneud Penderfyniadau Effeithiol -
Nodi amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth berthnasol a dibynadwy a chydnabod, lle bo hynny’n angenrheidiol, bod angen casglu data newydd o ffynonellau mewnol ac allanol

Ymwneud â Phobl - Arwain a Chyfathrebu -
Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen

Ymwneud â Phobl - Gwella Gallu Pawb -
Gofyn am adborth a gweithredu arno’n barhaus i werthuso a gwella eu perfformiad eu hunain a pherfformiad eu tîm

Gwireddu Canlyniadau - Cyflawni’n Brydlon -
Cynllunio ymlaen llaw ond gan ailystyried llwythau gwaith a blaenoriaethau os bydd sefyllfaoedd yn newid neu os bydd y galwadau ar unigolion yn gwrthdaro

Meini Prawf Penodol i’r Swydd:

  1. Profiad o ymdrin ag ymholiadau cysylltiedig â threth neu o waith ym maes cydymffurfiad â threth (byddai gwybodaeth flaenorol am TDDS yn fanteisiol, ond nid yn hanfodol)
  2. Gallu dod i ddeall pwnc cymhleth yn gyflym a / neu gyfleu achosion cymhleth yn effeithiol i gynulleidfa sydd ond ag ychydig o wybodaeth neu ddealltwriaeth am y pwnc.
  3. Gallu gwella a datblygu prosesau busnes yn gyson mewn amgylchedd busnes sy’n newid

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Telerau'r Penodiad
Swydd barhaol yw hon.

Yn ystod y cyfnod o sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) mae Llywodraeth Cymru yn recriwtio i nifer o swyddi ar ran yr adran anweinidogol newydd hon.
Er nad yw Telerau ac Amodau Awdurdod Cyllid Cymru wedi’u cadarnhau eto, rhagwelir y byddant yn dilyn rhai Llywodraeth Cymru.

Yn unol â rhan 2 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, mae gofyn i holl staff ACC lofnodi Datganiad Cyfrinachedd mewn perthynas â gwybodaeth bersonol am drethdalwyr.

Beth rydyn ni’n ei gynnig:

Mae ACC yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau, yn cynnwys:
• Cyfle i lywio sylfeini sefydliad dwyieithog, newydd
• Cymorth er mwyn i bob gweithiwr cyflogedig wella neu feithrin ei sgiliau iaith Gymraeg
• Trafodaethau datblygu rheolaidd a’r hyfforddiant sydd ei angen arnoch yn eich swydd ac er mwyn i chi dyfu
• Codiadau cyflog blynyddol, sy’n fodd i chi weithio eich ffordd i fyny’r raddfa gyflog o fewn 3-4 blynedd
• 31 diwrnod o wyliau blynyddol, yn ogystal â diwrnod ar gyfer y Nadolig a Phen-blwydd y Frenhines
• Cyfnod hael o absenoldeb rhiant, yn cynnwys 26 wythnos ar gyflog llawn i weithwyr cyflogedig cymwys
• Cynllun pensiwn hael gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
• Cynllun Talebau Gofal Plant, gan arbed hyd at £933 y flwyddyn
• Cynllun Seiclo i’r Gwaith: dewiswch feic newydd sy’n werth hyd at £1000, gan arbed o leiaf 32%
• Blaensymiau Cyflog: gallwch ofyn am flaensymiau cyn y Nadolig, ar gyfer offer cyfrifiadurol neu Flaendaliadau Tenantiaeth
• Benthyciadau Tocyn Tymor
• Polisi oriau hyblyg
• Lleoliad cyfleus oddi ar yr M4 gyda maes parcio am ddim ar y safle (ar sail y cyntaf i'r felin)

Efallai y bydd lwfans cyfrifeg yn daladwy i ymgeisydd addas

Jenni Viggers

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.