Swydd Wag -- AGC - Rheolwr Tîm – Cymorth Arolygu

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
AGC
SEO - £41,700 - £49,370
£37,600
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Lleolir y sywdd yn un o swyddfeydd CIW: Merthyr, Caerfyrddin neu Llanduno Junction.
I'w Gadarnhau

Pwrpas y swydd

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Rydym yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru 

Pwrpas y swydd yw darparu arweinyddiaeth a rheolaeth i dîm Prosiect Cyswllt AGC, rheolwyr arolygu a staff cymorth arolygu sy'n cefnogi pob agwedd ar y broses arolygu. 

Swydd newydd yw hon, a fydd yn sefydlu tîm Prosiect Cyswllt AGC fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y sefydliad wrth ymdrin â phryderon, hysbysiadau gwasanaethau a pob ffurf arall o gyswllt â'r sefydliad, gan ddarparu gwasanaeth amserol, o safon uchel. 

Bydd deiliad y swydd yn cydweithio'n agos â'r timau canolog a gweithredol i arwain ar y gwaith o ddatblygu a dylunio prosesau busnes ar gyfer tîm Prosiect Cyswllt AGC a thimau arolygu er mwyn sicrhau cysondeb ym mhob proses ledled Cymru. 

Fel swydd y mae ei chwmpas yn cynnwys Cymru gyfan, bydd angen teithio ledled y wlad i reoli timau a chefnogi staff.

Prif dasgau

  • To provide leadership and management support to the Inspection Support Managers and inspection support staff to include direct line management of 4 x MB3 staff. 
  • To provide leadership and management support to the CIW Connect Team as the first point of contact team for the organisation ensuring that all types of contact are dealt with to service standards in a timely and consistent way. 
  • To lead on establishing the new ways of working, ensuring changes are implemented across the business support teams in line with the CIW Connect project vision and objectives. 
  • To work with the inspection support team to sustain new working practices and processes in line with new ways of working. 
  • Provide weekly reports to senior management on the inspection support dashboards to track activities and understand resource capacity in short and longer term. 
  • Supporting the development of staff in the team by providing induction training, briefings and acting as mentor or coach as required with staff members. 
  • Observation and monitoring of practice to identify and share good practice and areas for development. 
  • Managing own professional development and seeking appropriate opportunities in discussion with line manager. 
  • Acting as operational lead for the Disclosure Barring Service (DBS) process, managing change in relation to the DBS process and reporting any issues to the DBS business process owner. 
  • Any other duties that may be required to support the CIW Connect Team and Inspection Support Team.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i weithio mewn sefydliad dynamig sy'n hyrwyddo gwelliannau mewn gofal cymdeithasol drwy ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dinesydd.

Dyddiad Cau

03/05/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Arwain a Chyfathrebu -
Cyfathrebu mewn ffordd glir, onest a diddorol â phob rhanddeiliad, gan fod yn barod i egluro a hyrwyddo blaenoriaethau strategol a gweithredol AGC pan fydd angen

 

Cydweithio a Gweithio mewn Partneriaeth -
Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi'r broses o wireddu canlyniadau busnes

 

Newid a Gwella -
Adolygu gweithdrefnau neu systemau yn rheolaidd gyda thimau er mwyn nodi gwelliannau a symleiddio prosesau a threfniadau ar gyfer gwneud penderfyniadau



Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd-

Gweithio gyda thimau i bennu blaenoriaethau, nodau, amcanion ac amserlenni



Meini prawf penodol i'r swydd:

  1. Profiad o arwain a rheoli'r broses o roi meysydd gwaith newydd ar waith gan ddangos y gallu i arwain, hyrwyddo ac ysgogi mentrau newydd yn y sefydliad 
  2. Y gallu i roi cyngor ac arweiniad da i uwch staff a chydweithwyr eraill, a hynny'n fewnol ac yn allanol, er mwyn cefnogi'r broses o wneud penderfyniadau
  3. Gwybodaeth a phrofiad o adrodd ar berfformiad a gwybodaeth, gan ddefnyddio adnoddau CRM priodol, a phecynnau Microsoft.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Diwrnodau agored recriwtio:

Rydym yn cynnal nifer o ddiwrnodau agored recriwtio ar draws ein swyddfeydd yng Nghymru.  Dysgwch fwy am ein gwaith, clywch gan ein harolygwyr presennol, darganfyddwch fwy am y rolau yr ydym yn eu hysbysebu a chael cymorth ar sut i gwblhau eich cais ar-lein.

Mae 3 sesiwn, dewiswch naill ai 9-10y.b, hanner dydd – 1y.p neu 3 – 4y.p:

  • Dydd Iau, 11 Ebrill, Swyddfa Merthyr
  • Dydd Gwener, 12 Ebrill, Swyddfa Caerfyrddin
  • Dydd Mawrth, 23 Ebrill, Swyddfa Caerfyrddin
  • Dydd Mawrth, 23 Ebrill, Swyddfa Llandudno
  • Dydd Llun, 29 Ebrill, Swyddfa Merthyr
  • Dydd Llun, 29 Ebrill, Swyddfa Llandudno

Does dim angen archebu lle, dewch draw ar y diwrnod.


Mae pecyn gwybodaeth ar gael ar wefan AGC, dilynwch y linc yma i'w ffeindio:

https://arolygiaethgofal.cymru/sites/default/files/2019-04/190411-recriwtio-allanol-2019-cy_0.pdf

Kevin Barker - 03000 628822

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.