Swydd Wag -- AGC - Uwch-reolwr – Arolygu Awdurdodau Lleol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Tîm Arolygu Awdurdodau Lleol
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Mae tal cychwynnol o fand 3 (£54,150) ar gyfer ymgeisydd sydd yn dangos sgiliau allweddol, dealltwriaeth a phrofiad
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Gosodir y sywdd yn un o swyddfeydd CIW (Merthyr, Carmarthen neu Llandudno Junction).
I'w Gadarnhau

Pwrpas y swydd

Rheoleiddiwr annibynnol gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant yw AGC. Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru. Mae arolygu awdurdodau lleol yn swyddogaeth allweddol wrth ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol diogel ac o ansawdd uchel i ddinasyddion Cymru. Mae swydd yr Uwch-reolwr – Arolygu Awdurdodau Lleol yn hanfodol er mwyn rhoi sicrwydd a gyrru gwelliant o ran ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol. 

Gallai deiliad y swydd fod â chyfrifoldeb rheolwr llinell dros hyd at bedwar arolygydd awdurdod lleol a bydd yn cefnogi Pennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol wrth sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu darparu'n gyson, yn effeithiol ac yn effeithlon. 

Mae rhaglen newidiadau sylweddol ar droed yn AGC, sy'n cynnwys newid strwythurau a symud tuag at wasanaethau digidol. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at agweddau allweddol ar yr agenda newid ac yn eu cefnogi.

 

Bydd deiliad y swydd yn atebol i Bennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol.

Prif dasgau

  • Arwain, rheoli a chyfrannu at y gwaith o gynllunio a chyflawni rhaglen o arolygiadau,   gwaith craffu ac adolygiadau, arolygon ac archwiliadau awdurdod lleol ledled   Cymru, gan sicrhau bod adnoddau'n cael eu rheoli'n gadarn ac yn unol â'r   blaenoriaethau cytunedig.
  • Dod i farn gytbwys a chadarn   sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar ansawdd, effeithiolrwydd ac effaith y   gwasanaethau a ddarperir o fewn yr amrediad o wasanaethau i blant ac oedolion   fel y bo angen.
  • Cynhyrchu adroddiadau   cyhoeddus gwerthusol sydd o ansawdd uchel yn barhaus, a gweithio'n effeithiol   gyda rhanddeiliaid allweddol i gefnogi gwelliant ac arloesedd a rhannu arfer   da.
  • Arwain a bod yn gyfrifol am   ansawdd a phrydlondeb pob agwedd ar waith craffu ar berfformiad, adolygu ac   arolygu awdurdodau lleol, yn unol â'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau mewnol   perthnasol.
  • Arwain y gwaith o ddatblygu   a gweithredu dulliau arloesol o integreiddio gwaith craffu, adolygu ac   arolygu, a chyfrannu at y datblygiadau hyn.  
  • Paratoi llythyr adolygu   blynyddol ynghylch effeithiolrwydd yr adran gwasanaethau cymdeithasol lleol   a'i heffaith ar ganlyniadau ar gyfer dinasyddion lleol. Bod yn gyfrifol am   gyflwyno'r llythyr hwn i Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol,   y prif aelodau etholedig a'r pwyllgorau craffu.  
  • Dadansoddi data sy'n deillio o ddangosyddion allweddol,   gan gynnwys gwybodaeth o waith rheoleiddio ac arolygu a gwybodaeth arall, er   mwyn nodi'r blaenoriaethau datblygu a gwella ar gyfer rhaglen gweithgareddau   arolygu, craffu ac adolygu awdurdodau lleol AGC.
  • Datblygu a chynnal cydberthnasau gweithio cynhyrchiol   ac effeithiol ag amrywiaeth o randdeiliaid allanol priodol a chysylltiadau   polisi allweddol perthnasol o fewn cyrff cenedlaethol, Llywodraeth Cymru,   awdurdodau lleol a byrddau iechyd, ynghyd â chyrff archwilio, arolygu a   rheoleiddio penodedig perthnasol, ac ag asiantaethau statudol eraill sydd â   chyfrifoldeb dros ddarparu a chomisiynu gwasanaethau.
  • Cynrychioli'r Arolygiaeth Gofal fel y bo angen mewn   amrywiaeth eang o grwpiau mewnol ac allanol ac mewn cynadleddau a   digwyddiadau allanol
  • Bod yn gyfrifol am gasglu gwybodaeth am ddatblygiadau   polisi ac arfer mewn gwasanaethau cymdeithasol oedolion a phlant o amrywiaeth   eang o ffynonellau a rhannu'r wybodaeth hon â chydweithwyr.
  • Arwain ar weithgareddau ymgysylltu â phobl sy'n   defnyddio'r gwasanaethau a'u gofalwyr, er mwyn llywio’r gwaith o adolygu   perfformiad ac arolygu awdurdodau lleol
  • Arwain y gwaith o sicrhau   bod trefniadau sicrhau ansawdd a pherfformiad cryf yn cael eu cyflawni'n   effeithiol, a chyfrannu at ddatblygu a gwella trefniadau o'r fath
  • Mewn amgylchiadau lle y mae   cyfrifoldeb rheolwr llinell, sicrhau bod trefniadau cadarn ar gyfer   atebolrwydd, cydymffurfiaeth, goruchwylio rheolaeth a datblygiad y tîm.
  • Arwain ar y gwaith o   ddarparu cyngor, cymorth, gwybodaeth ac adroddiadau i'r Pennaeth Arolygu   Awdurdodau Lleol yn ôl yr angen 
  • Paratoi briffiau i   Weinidogion a'r Tîm Uwch-reolwyr o ran materion penodol fel y bo angen
  • Gweithio'n agos gydag   uwch-reolwyr mewn timau rheoleiddio i rannu gwybodaeth
  • Sefydlu a chynnal perthnasau   effeithiol â'r awdurdodau lleol a byrddau iechyd o ran trefniadau statudol a   chydweithredol
  • Sicrhau bod gwaith yn cael   ei gyflawni i safon uchel, mewn modd amserol a bod penderfyniadau'n cael eu   cyfathrebu'n effeithiol
  • Datblygu a sefydlu arferion   arolygu cryf ac effeithiol ar draws AGC a chyfrannu at sicrhau bod canllawiau   ac offerynnau arolygu ar waith, eu bod yn addas i'r diben, yn cael eu   gwerthuso ac yn cael eu hadolygu'n gyson  
  • Ystyried sylwadau mewn   perthynas â gweithgarwch rheoleiddio, yn unol â'r rota gytunedig
  • Sicrhau a chyfrannu at waith   tîm, cydweithredu a chyfathrebu effeithiol
  • Cynrychioli'r sefydliad ar   lefel uwch yn ôl y gofyn
  • Dirprwyo ar ran y Pennaeth Arolygu   Awdurdodau Lleol pan fo angen
  • Ysgwyddo'r   cyfrifoldeb am reoli eich perfformiad eich hun a’ch datblygiad proffesiynol   eich hun, a cheisio cyfleoedd datblygu priodol yn unol â phroses rheoli   perfformiad Llywodraeth Cymru a thrafodaethau â'r Pennaeth Arolygu Awdurdodau   Lleol

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle i weithio mewn sefydliad deinamig sy'n hyrwyddo gwelliannau mewn gofal cymdeithasol trwy fynd ati mewn modd sy'n canolbwyntio ar y dinesydd.

Dyddiad Cau

07/05/19 12:40

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:


Strategol – Pennu'r Cyfeiriad:


Herio a Gwella – Sylwi ar arwyddion sy'n rhybuddio bod pethau'n mynd o'u lle, ac ymateb yn gadarn i heriau arwyddocaol i'r ddarpariaeth


 


Strategol – Pennu'r Cyfeiriad:


Gwneud penderfyniadau effeithiol – Llunio a chyflwyno casgliadau rhesymol o amrywiaeth eang o dystiolaeth a data cyflawn a chymhleth; byddwch yn gallu gweithredu neu wneud penderfyniadau hyd yn oed pan nad yw'r manylion yn glir


 


Clwstwr Pobl – Ennyn diddordeb pobl


Arwain a Chyfathrebu – Bod yn weladwy i staff a rhanddeiliaid, a chynnal gweithgareddau rheolaidd i ymgysylltu a meithrin ymddiriedaeth â phobl sy'n cyfrannu at y maes gwaith.


 


Clwstwr Perfformiad – Cyflawni Canlyniadau


Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd – Creu cyfleoedd rheolaidd i staff a chwsmeriaid helpu i wella ansawdd gwasanaeth a dangos yn glir eu bod wrthi’n cyfrannu


Meini Prawf Penodol i’r Swydd:

  1. Cymhwyster gofal cymdeithasol cydnabyddedig, megis diploma mewn gwaith cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol), cymhwyster nyrsio neu ofal perthynol i iechyd, cymhwyster addysgu neu addysg i lefel gradd gyda Lefel 5 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth neu Ddiploma perthnasol mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a'r gallu i ddangos perthnasedd y cymhwyster hwn i'r rôl. 
  2. Profiad o fod yn rheolwr canol neu'n uwch-reolwr sydd wedi rheoli gwasanaethau gofal cymdeithasol neu iechyd i oedolion yn effeithiol, a phrofiad eang a pherthnasol o wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol
  3. Gwybodaeth, gallu a phrofiad o weithio'n strategol ac yn weithredol i lywio a chyflawni gwelliannau mewn gofal cymdeithasol neu wasanaethau iechyd

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae'r swydd hon yn ymwneud â chynnal gwaith craffu, adolygu ac arolygu ledled Cymru, a bydd, felly, angen teithio gyda chyfnodau o aros oddi cartref ac oriau anghymdeithasol ar brydiau.


Diwrnodau agored recriwtio:

Rydym yn cynnal nifer o ddiwrnodau agored recriwtio ar draws ein swyddfeydd yng Nghymru.  Dysgwch fwy am ein gwaith, clywch gan ein harolygwyr presennol, darganfyddwch fwy am y rolau yr ydym yn eu hysbysebu a chael cymorth ar sut i gwblhau eich cais ar-lein.

Mae 3 sesiwn, dewiswch naill ai 9-10y.b, hanner dydd – 1y.p neu 3 – 4y.p:

  • Dydd Iau, 11 Ebrill, Swyddfa Merthyr
  • Dydd Gwener, 12 Ebrill, Swyddfa Caerfyrddin
  • Dydd Mawrth, 23 Ebrill, Swyddfa Caerfyrddin
  • Dydd Mawrth, 23 Ebrill, Swyddfa Llandudno
  • Dydd Llun, 29 Ebrill, Swyddfa Merthyr
  • Dydd Llun, 29 Ebrill, Swyddfa Llandudno

Does dim angen archebu lle, dewch draw ar y diwrnod.


Mae pecyn gwybodaeth ar gael ar wefan AGC, dilynwch y linc yma i'w ffeindio:

https://arolygiaethgofal.cymru/sites/default/files/2019-04/190411-recriwtio-allanol-2019-cy_0.pdf

Vicky Poole - 03000 625809

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.