Swydd Wag -- Swyddogion Cymorth Busnes x2
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Bod yn gyfrifol am:
• Gydweithio, o dan arweiniad eu Swyddogion Busnes, gyda gweddill aelodau’r Uned Fusnes er mwyn darparu gwasanaeth cyson, effeithiol ac effeithlon.
• Helpu i drefnu prosiectau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ar gyfer yr arweinwyr timau a’r cyfieithwyr sy’n gwasanaethu cwsmeriaid fesul portffolio Gweinidogol.
• Darparu cymorth busnes a chefnogaeth gyffredinol i reolwyr a chyfieithwyr y Gwasanaeth Cyfieithu.
Prif dasgau
Cydweithio yn gyson ac effeithiol ag eraill
• Cydweithio yn effeithiol â’r Swyddogion Cymorth Busnes eraill a chyfathrebu yn glir â chydweithwyr yn gyffredinol er mwyn arddel prosesau, polisïau ac arferion gwaith cyson.
• Cynorthwyo’r tîm i ddarparu gwasanaeth prydlon, cyson ac effeithlon i gwsmeriaid drwy fod yn rhan o rota waith yr Uned Fusnes.
Darparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer prosiectau cyfieithu (Cyffredinol, Deddfwriaethol a Chyfieithu ar y Pryd)
• Paratoi prosiectau cyfieithu a ddaw i law gan gwsmeriaid, dadansoddi pob cais yn drylwyr, deall natur y gwaith yng nghyd-destun Safonau’r Gymraeg, a thrafod y gwaith gydag arweinwyr y timau cyfieithu. Cydweithio’n agos gyda’r Swyddog Busnes i drafod prosiectau cyfieithu cymhleth gan achub ar bob cyfle i baratoi’r gwaith mewn ffordd sy’n sicrhau proses gyfieithu effeithlon, ee drwy ddefnyddio meddalwedd gyfieithu i baratoi prosiectau cyfieithu.
• Cyd-drafod â chwsmeriaid (ynghylch dyddiadau dychwelyd, anghenion ac amodau) a gofalu bod yr wybodaeth a geir mor gyflawn ag sydd ei angen i’r cyfieithydd allu cynhyrchu gwaith safonol a phrydlon.
• Bod yn barod i ddilyn prosesau sy’n gyson â gweddill yr Uned Fusnes o ran prosesu ceisiadau am gyfieithu a chyfieithu ar y pryd, a chynnig syniadau i wella a mireinio’r systemau.
• Deall sut i ddefnyddio’r cytundeb fframwaith cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, comisiynu gwaith trwy gystadleuaeth gan gyflenwyr allanol a bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyfieithwyr allanol. Dilyn prosesau comisiynu gwaith allanol sy’n cydymffurfio â phrosesau’r Llywodraeth ac arddel arferion gorau o ran llywodraethiant y broses.
Darparu cymorth busnes
• Ymgymryd ag amryw o dasgau sydd wedi'u rhannu rhwng aelodau'r Uned Fusnes. Gall y rhain amrywio o argraffu papurau cyfarfod i fonitro costau teithio i helpu i osod a chynnal offer cyfieithu ar y pryd.
• Datblygu a defnyddio sgiliau TG arbenigol sy'n allweddol i waith y Gwasanaeth Cyfieithu (ee defnyddio meddalwedd cof cyfieithu i alinio a dadansoddi dogfennau) a systemau corfforaethol. .
• Cynorthwyo ag unrhyw agwedd arall ar waith gweinyddol a phrosiectau corfforaethol cyffredinol y gangen, yn unol â chyfarwyddiadau'r rheolwr llinell neu'r staff uwch.
Cyfleoedd datblygu
• gael cyswllt dyddiol ag amryw randdeiliaid, gan gynnwys cwsmeriaid mewnol, ysgrifenyddion preifat y Gweinidogion, a chyfieithwyr allanol sy’n cynnig gwasanaeth ar gontract.
• datblygu sgiliau sy’n ganolog i’r gwaith o ddarparu gwasanaethau, ee gofal cwsmeriaid, rheoli cyllid, a chasglu data.
• datblygu set o sgiliau ‘paragyfieithu’, gan gynnwys defnyddio systemau meddalwedd arbenigol i baratoi dogfennau ar gyfer cyfieithwyr mewnol ac allanol,
• gweithio mewn amgylchedd cwbl ddwyieithog lle mae’r Gymraeg yn iaith gwaith y gangen ac, os bydd gan yr ymgeisydd sgiliau Cymraeg ysgrifenedig cadarn, caiff gynnig yr opsiwn i ddilyn rhywfaint o hyfforddiant cyfieithu.
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl
Gweithredu mewn modd teg a pharchus wrth ymdrin ag eraill.
Dod o hyd i ffyrdd o ddysgu a gwella’n bersonol wrth gyflawni tasgau o ddydd i ddydd
Dysgu am anghenion cwsmeriaid a chyflenwyr
Gweithio mewn modd trefnus, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u harbenigedd i gyflawni’n brydlon a safonol.
Meini prawf penodol i'r swydd
Proses Asesu
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Disgwylir i ymgeiswyr gyflwyno’u ceisiadau yn Gymraeg, ond gan ddarparu tystiolaeth ar gyfer un o’r meini prawf penodol i’r swydd (Meddu sgiliau TG da) yn Saesneg.
Caiff ansawdd yr iaith ysgrifenedig yn y ffurflen gais ei asesu fel rhan o’r sifft.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.