Swydd Wag -- Prentisiaethau Llywodraeth Cymru 2017

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil

Manylion y swyddi

Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
£17,200 (pro rata ar gyfer rhan-amser)
Rydym yn rhagweld y byddwn yn penodi hyd at 50 o brentisiaid dros y 12 mis nesaf. Bydd y rhan fwyaf ohonynt yn dechrau yn eu swyddi ym mis Hydref/Tachwedd, tra bydd eraill o bosibl yn cael eu penodi yn nes ymlaen yn ystod y 12 mis.
18 mis
37 awr yr wythnos. Croesawir ceisiadau gan bobl sy'n dymuno gweithio'n rhan-amser, ond bydd angen ichi allu gweithio o leiaf 3 diwrnod yr wythnos i sicrhau digon amser ichi gwblhau'r NVQ.
Bydd swyddi ar gael yn ein prif swyddfeydd yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Aberystwyth a Chyffordd Llandudno. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd nifer fach o gyfleoedd i weithio mewn lleoliadau eraill ar draws Cymru.

Ein Prentisiaethau

Fel Prentis, byddwch yn ennill cyflog ac yn cael eich hyfforddi ar yr un pryd.  Byddwch yn datblygu eich sgiliau ac yn aelod gwerthfawr o'r tîm o'r dechrau'n deg. Mae'n ddewis gwych ar gyfer gyrfa pa un a ydych yn gadael yr ysgol neu'r coleg, yn dychwelyd i weithio ar ôl magu teulu neu'n edrych am yrfa newydd. 

Mae gweithio i Lywodraeth Cymru yn wahanol i unrhyw swydd arall yng Nghymru. Mae gennym amrywiaeth eang o swyddi i'w cynnig.


Y mathau o dasgau y gallech fod yn eu gwneud

  • Cyfathrebu gyda chwsmeriaid / sefydliadau / cyflenwyr gwahanol ac ymdrin ag ymholiadau; wyneb yn wyneb, drwy e-bost neu dros y ffôn
  • Cynorthwyo mewn cyfarfodydd a thrafodaethau mewnol ac allanol
  • Cymryd cyfrifoldeb am ffeilio yn electronig waith eich hun ac ar ran y tîm ehangach
  • Drafftio dogfennau a llythyrau
  • Trefnu digwyddiadau a chyfarfodydd 
  • Rheoli taenlenni/cronfeydd data
  • Prosesu taliadau ariannol
  • Gweithio gyda thimau eraill o fewn eich maes busnes ehangach pan fo angen 

Ar ddiwedd eich Prentisiaeth, mae'n bosibl y bydd cyfle ichi gael swydd barhaol gyda ni yn y Llywodraeth, ond bydd hynny'n dibynnu ar nifer y swyddi sydd ar gael, eich bod wedi cwblhau'r Brentisiaeth yn llwyddiannus ac nad oes unrhyw broblem wedi codi o ran eich perfformiad, eich ymddygiad neu'ch presenoldeb. 

 

Pwy ydym yn chwilio amdano?

Rydym yn chwilio am unigolion sy'n awyddus i ddysgu, ac sy'n ymrwymedig i ennill cymwysterau wrth weithio fel rhan o dîm.

Byddwch:

  • Yn cael eich ysgogi i astudio wrth weithio er mwyn datblygu eich sgiliau (Ymddygiad a 
  • Yn gallu gweithio fel rhan o dîm (Yr Ymddygiad sy’n cael ei brofi: Cyfrannu’n rhagweithiol i waith y tîm cyfan)
  • Yn gallu gweithio heb lawer o oruchwyliaeth (Yr Ymddygiad sy’n cael ei brofi:  Gweithio’n sydyn ac egnïol er mwyn cwblhau’r gwaith)        
  • Yn hyblyg yn eich agwedd (Yr Ymddygiad sy’n cael ei brofi: Cydymffurfio â newid a bod yn agored i’r hyn a allai ddod yn ei sgil. Hefyd, ystyried ffyrdd o roi newid ar waith, neu addasu iddo, yn eu rôl eu hunain)
  • Yn gyfathrebwr da (Yr Ymddygiad sy’n cael ei brofi:  Gallu cyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig)
  • Yn gallu defnyddio TGCh yn hyderus, ac yn meddu ar sgiliau digidol da (Yr Ymddygiad sy’n cael ei brofi: Sgiliau TG a digidol - i'w profi gan gwestiwn yn y ffurflen gais a gan y profion ar-lein)
  • Yn gallu dangos bod gennych lefel uchel o sgiliau rhifedd a llythrennedd  (Yr Ymddygiad sy’n cael ei brofi: Sgiliau rhifedd a llythrennedd effeithiol - i'w profi gan y profion ar-lein)

Byddwn yn asesu'r holl ymddygiadau a sgiliau uchod yn ystod y broses ddethol.  Byddwn yn argymell eich bod yn mewngofnodi ac agor y ffurflen gais yn gynnar yn y broses er mwyn i chi weld pa dystiolaeth yn union sydd angen i chi ei darparu)


Pwy all ymgeisio?

I allu ymgeisio:

  • Byddwch yn o leiaf 16 oed erbyn 31 Awst 2017.
  • Ni fyddwch mewn addysg amser llawn (gallwch ymgeisio tra byddwch yn dal i fynd i'r ysgol/coleg/prifysgol ond byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau erbyn yr amser y byddwch yn dechrau’r brentisiaeth).
  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol arnoch. Os oes gennych gymhwyster Lefel 3 NVQ neu'n uwch mewn Gweinyddu Busnes, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y cynllun prentisiaeth hwn.
  • Bydd angen ichi ateb Gofynion Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil i allu ymgeisio.

Beth yw'r cymhwyster?

Byddwch yn astudio tuag at gymhwyster Lefel 3 NVQ mewn Gweinyddu Busnes. Am fwy o fanylion am sut y byddwch yn astudio, a'r mathau o fodiwlau y byddwch yn eu cyflawni, gwelwch y Trosolwg Prentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes (PDF, 4 tudalen)



Mae’r Rhaglenni Prentisiaeth, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, yn cael cymorth ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop

Ein Proses Ddethol

Mae manylion llawn y broses yn ein Canllaw Cam wrth Gam (PDF, 4 tudalen). Mae'n bwysig eich bod yn darllen y canllaw hwn cyn ichi ddechrau llunio eich cais. Mae hefyd yn cynnwys cyngor ar ysgrifennu'ch cais, a'n nodi'r dyddiadau allweddol yn y broses a bydd angen ichi fod ar gael ar y diwrnodau hynny.

Bydd y broses yn cynnwys:

  • Sifft gychwynnol
  • Asesu eich cymhwysedd i astudio NVQ
  • Cwblhau'r asesiadau WEST (Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru) ar-lein* mewn llythrennedd a rhifedd, a sgiliau digidol
  • Ail sifft
  • Cyfweliadau

* Mae'r asesiadau hyn yn ofyniad hanfodol ar gyfer astudio NVQ, a byddant yn cael eu gweinyddu gan ein darparwr hyfforddiant, Acorn. Bydd angen i Acorn wirio eich bod yn gymwys i astudio NVQ cyn ichi wneud yr asesiad ar-lein. 



Yn ogystal â llenwi'r ffurflen gais ar-lein, MAE'N HANFODOL EICH BOD YN LLENWI'R FFURFLEN GYMHWYSEDD AM BRENTISIAETH A'I HATODI I'CH CAIS OHERWYDD HEBDDI, NI FYDDWN YN GALLU BWRW YMLAEN Â'CH CAIS.

Dylech lwytho i lawr neu argraffu Ffurflen Cymeradwyo Prentisiaeth Acorn (Dogfen, 9 tudalen) nawr.  Unwaith i chi ei llenwi, bydd angen i chi ei chadw a'i hatodi i'ch ffurflen gais ar y dudalen o’r enw 'Ffurflen Cymeradwyo Prentisiaeth Acorn'.

Y Gymraeg

Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer y cynllun hwn yn Gymraeg neu'n Saesneg. Bydd sgiliau Cymraeg yn ofynnol i gyflawni rhai o'n swyddi. Fodd bynnag, nid yw sgiliau Cymraeg yn ofynnol ar gyfer pob swydd. Ni fydd ceisiadau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau yn Saesneg.

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).  

Manylion cyswllt er mwyn cael rhagor o wybodaeth

Mae gwybodaeth gyffredinol ynghylch y Prentisiaethau, gan gynnwys dogfen Cwestiynau Cyffredin, ar gael ar ein tudalen gwe Prentisiaethau 2017.  Os nad ydych chi'n gallu dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, cysylltwch â Desg Gymorth y Ganolfan Cydwasanaethau Canolog ar 029 2082 5454 neu DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk

Dyddiad cau

03/07/17 16:00

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.