Swydd Wag -- Lleoliadau Profiad Gwaith i Israddedigion, Cadw (di-dâl)

Y cyfle

Ydych chi ar dân dros y gorffennol, yn awyddus i'w ddiogelu i'r oesoedd a ddêl, ac yn frwd ei fod ar gael i bawb ei fwynhau?

Mae cyfleoedd lleoliad gwaith ar gael gan Cadw, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru, ar hyn o bryd.

Os ydych chi'n astudio at eich gradd, efallai mewn hanes, archaeoleg neu dreftadaeth, neu efallai mewn marchnata neu dwristiaeth, mae hi'n bwysig iawn cael profiad gwaith i gyd-fynd â'ch cymhwyster cyn i chi fentro i fyd mawr gwaith.

Mae gan Cadw ddyletswydd swyddogol i warchod hanes a diwylliant Cymru a gall ddarparu profiad mewn ystod eang o bynciau, o gadwraeth a gwaith mapiau i addysg a digwyddiadau. Mae'r cyfle bellach ar gael i chi weithio gydag ystod o arbenigwyr er mwyn gwarchod a hybu diwylliant Cymru, ac mae Cadw'n gwahodd myfyrwyr israddedig i ymuno â'r tîm.

Bwriad cyfleoedd lleoliad di-dâl yw:

  • rhoi cyfle i gael golwg fanwl o'r tu mewn ar waith Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru;
  • cynnig cyfle i ymgymryd â phrosiect penodol ar bwnc perthnasol;
  • datblygu tystiolaeth eich bod chi'n gyflogadwy.

Mae lleoliadau ar gael i fyfyrwyr israddedig sy'n astudio pwnc perthnasol e.e. Archaeoleg, Hanes, Cadwraeth, Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) a neu / Rheoli Gwybodaeth Adeiladu (BIM), Addysg, Twristiaeth, Marchnata. 

14 – 30 diwrnod - gellir treulio’r amser hwn mewn un cyfnod llawn amser, neu 2-3 diwrnod yr wythnos ar gyfer myfyrwyr rhan-amser
Nantgarw a Chyffordd Llandudno – ond gall lleoliadau eraill ledled Cymru fod ar gael

Gwaith ymchwil, gwaith prosiect, tasgau gweinyddol a phrofiad cyffredinol o sut mae sefydliadau yn y sector treftadaeth yn gweithio.

 

Gallai’r lleoliadau gynnwys:

  • cysgodi gwaith
  • mynychu cyfarfodydd
  • darllen a chrynhoi gwybodaeth
  • gwaith ymchwil
  • braslunio dogfennau ac adroddiadau
  • ffeilio/llungopïo a dyletswyddau gweinyddol cyffredinol eraill

Yr ymgeisydd fydd yn gyfrifol am y costau teithio i fynychu’r lleoliad gwaith.

Mae angen rhybudd o dri mis i drefnu lleoliad. Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu yn unol â’r cyfleoedd sydd ar gael pan ddaw’r cais i law, a bydd Cadw yn rhoi gwybod i ymgeiswyr beth yw canlyniad eu cais o fewn mis i dderbyn y cais.

Mae gan rai o swyddfeydd Llywodraeth Cymru gyfleusterau ar y safle, megis ffreutur. Os cadarnheir eich lleoliad, gallwch ofyn am wybodaeth benodol am safle’ch lleoliad.

Mae ein prif swyddfa yn Nantgarw, ger Caerffili ond mae gennym hefyd staff sy’n gweithio yng Nghyffordd Llandudno ac yn lleoliadau’n henebion ledled Cymru.

I'w gadarnhau

Sgiliau Cymraeg sydd eu hangen

 Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu ei gweithlu dwyieithog, ac yn croesawu ceisiadau ar gyfer unrhyw swydd gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r cyfle penodol hwn.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Manyleb person

Yn eich cais, fe fydd angen i chi baratoi datganiad personol mewn dogfen Word (neu debyg) i atodi i'ch cais ar-lein.  Gall eich datganiad fod hyd at 500 o eiriau.  Ni fyddwn yn ystyried unrhyw eiriau dros y cyfanswm hwn.

Dylech baratoi datganiad sy'n darparu tystiolaeth o'r canlynol:

  • pam ydych chi'n meddwl fod yr amgylchedd hanesyddol Cymreig yn bwysig

Ac hefyd, dylech ddarparu tystiolaeth o'ch profiad o'r canlynol:

  • cwblhau prosiectau o fewn terfyn amser
  • gweithio ar eich liwt eich hun
  • gweithio fel rhan o dim.

Cyn dechrau paratoi'ch datganiad, gall ddarllen y Canllaw Darparu eich tystiolaeth (Dolen) fod o gymorth i chi.

Sut i ymgeisio

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, cysylltwch a Desg Gymorth y Cydwasanaethau Corfforaethol ar 029 2082 5454 (neu e-bostio DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk dros e-bost) i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod, ac yna pwyswch ‘Cofrestru’ os nad oes gennych gyfrif.  Fe fydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i gofrestru.  Os oes gennych gyfrif yn barod, gallwch mewngofnodi gyda’ch cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair arferol.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, byddwch yn gallu mynd at y ffurflen gais.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.  Fe fydd gofyn i chi atodi’ch datganiad personol yn y ffurflen ar-lein dan yr adran ‘Atodi eich tystiolaeth’.  Am gyngor ar baratoi eich tystiolaeth, darllenwch y canllaw Darparu eich tystiolaeth (Dolen)

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

10/06/16 16:00

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.